Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) i:
a) ganiatáu ychwanegu calsiwm-L-methylffolad wrth weithgynhyrchu bwydydd proses sydd wedi eu seilio ar rawn a bwydydd babanod; a
b) chywiro gwelliant blaenorol a fethwyd i ychwanegu bisglycinad fferrus a zinc clorid fel ffynonellau a ganiateir o fitaminau a mwynau i'w hychwanegu at fwydydd proses sydd wedi eu seilio ar rawn a bwydydd babanod. Hefyd, pan fo bwyd proses sydd wedi ei seilio ar rawn neu fwyd babanod wedi’i labelu â swm cyfartalog y sylweddau hynny, effaith y Rheoliadau hyn yw bod yn rhaid gwneud hyn mewn modd sy’n cydymffurfio â’r gofynion labelu penodol a nodir yn rheoliad 8(2) a (3) o Reoliadau 2004.
Y weithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn wedi'i osod yn Saesneg yn unig. Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad oes fersiwn Gymraeg o’r Memorandwm Esboniadol wedi’i osod.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Pwynt Craffu ar Rinweddau :
Rhoddir blaenoriaeth i gyhoeddi Memoranda Esboniadol ar gyfer is-ddeddfwriaeth yn Gymraeg (yn unol â Safon 47 o Safonau’r Gymraeg). Cyhoeddir fersiwn Gymraeg os bydd pwnc y Memorandwm Esboniadol yn awgrymu y dylai fod ar gael yn Gymraeg, neu os bydd y gynulleidfa a ragwelir yn disgwyl gweld fersiwn Gymraeg. Yn yr achos hwn, barnodd Llywodraeth Cymru fod fersiwn Gymraeg o’r Memorandwm Esboniadol yn ddiangen oherwydd natur gyfyng a phenodol y Rheoliadau a’r gynulleidfa darged bach.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
20 Rhagfyr 2022